Pwy dwi ta?

Nwdls. Neu Rhodri ap Dyfrig.

Byta blodyn

Dwi’n fyw ers 1977, yn reidio beic ers 1983, yn gwrliog ers 1989, yn born again raver ers 1991, yn blogio ers 2003, ac yn Aberystwyth ers 2005.

Dwi’n gweithio i Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth ar eu partneriaeth gyda chwmni Boomerang, gwefan fideo Sesh, gwefan ddysgu ffilm a theledu (eto i gael teitl), Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant a phethau amrywiol eraill.

Yn y rhithfro dwi’n rhannol gyfrifol am y Rhegiadur, yn cyfrannu at Pictiwrs, yn dangos fy lluniau ar Fflicr, yn siarad ar Faes-e, yn IwTiwbio, yn Bla.s.us-io, ac yn Gweplyfrio (chisio gêm o Sgrabl?) ymysg llawer peth arall na ddylswn i wastraffu’n amsar â nhw.

Dwi’n lecio ffilmiau. Mae hynny’n un peth sy’n bendant. Dwi di gneud un ffilm fer o’r enw Y Fargen, dwi di dangos llwyth o ffilmiau bach a mawr gyda Chymdeithas Ffilm Pictiwrs (rhowch waedd os da chisio fi ddangos rhai lle da chi’n byw), dwi di sgwennu am ffilmiau i wefan Pictiwrs, Cylchgrawn Barn ac amryw bethau eraill. Dwi di gwylio dwn im faint, wedi trio cofnodi pa rai am chydig, ac yn cael y teimlad nad oes digon o amser mewn bywyd i wylio’r holl ffilmiau swn i’n lecio gwylio. Bydd hyd yn oed llai mewn chydig fisoedd.

Gallwch gysylltu â fi’n uniongyrchol ar: rhodri [dotsyn] apdyfrig [malwen] gmail [dotsyn] com