Rhaglen Ffilmiau Pictiwrs Yn Y Pyb Aber (8yh, Iau, 13eg Gorff)
Dyma’r ffilmiau fydd yn dangos yn y Pictiwrs Yn Y Pyb Aberystwyth nos fory (Iau 13eg) yn y Y Cwps, Aber am 8pm. Gyda gwestai gwadd arbennig yn compere am y noson.
Yr Ymwelydd (8’30”)
Ysg / Cyf: Tomos Cynllo Lewis
Ffilm am beilot Almaeneg yn ystod yr Ail Ryfel Byd sydd ar goll tu ôl i linellau’r gelyn. Wedi iddo orfod dianc o’i awyren, mae’n glanio mewn coeden yn Ngorllewin Cymru. Cred ei fod wedi darganfod lloches - ond prin yw’r croeso i elyn mewn rhyfel.
**Ennillydd gwobr gyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau’r Imperial War Museum 2006**
**Ennillydd gwobr Ffilm Yr Wyl yng Ngwyl Ffilmiau Myfyrwyr Ffresh 2006**
Dave: yn “Un Tro Da” (5’20”)
Ysg/Cyf: Griffilms
Ffilm gomedi animeiddio yn steil ffilmiau mud y 1920au sydd hefyd yn defnyddio’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf. Cafodd y ffilm wedi ei henwebu ar gyfer y ffilm animeiddio orau yng Ngwyl Ffilm a Theledu Geltaidd 2006.
Eistedd Yn Gysurus (5’00”)
Awd/Cyf: Jack Burton
Ffilm fer arbrofol am ddiflasdod teithio dyddiol gan fyfyriwr o Ysgol Glan Taf, Caerdydd. Cafodd y ffilm ei rhoi ar y rhestr fer am y ffilm iaith Gymraeg orau yng Ngwyl Ffilmiau Myfyrwyr Ffresh eleni.
Chwedl y Gath (3’00”)
Motion Blur Productions
Cyf: Alan Moult
Hoff le’r gath fach yw ar gar y teulu. Wedi hen arfer â neidio i ffwrdd cyn i’r car yrru i ffwrdd a chodi’n ôl arno wrth iddo ddychwelyd. Heddiw, mae ei pherchnogion yn mynd â’r car i gael ei olchi. Mae paratoadau munud olaf yn dal cynffon y gath yn y to agor. Mae pws yn crafu i neidio oddi ar y car, ond mae’r gerddoriaeth ymlaen, mae ei chynffon wedi’i dal, a does dim y gall hi ei wneud i’w hachub nawr!
**************************************************************************************
EGWYL
**************************************************************************************
Buchedd a Buchedd Horas (5’00”)
Awdur: Hywel George / Cyf: Jason King
Chwedl ffantsïol am fywyd cyffredin, di-nod, 9-tan-5 Horas, wedi’i adrodd gan dylwythen deg nymffaidd.
Rownd Arall (3’00”)
Kode Productions
Cyf: Rob Harrington
Mae Cellar Dweller yn animeiddiad CG 3 munud o hyd am degan plastig sy’n sownd mewn selar clwb nos. Mae’n deffro yno wedi noson hegar o sesh – ac yn sydyn, mewn embaras llwyr, mae’n cofio sut cytrhaeddodd o yno.
Elen (10’00”)
Awdur: Caryl Lewis / Cyf: Elen Bowman
Mae llafur cefn gwlad wedi gadael ôl ar Elen, ond ar nos Calan mae’n gyfle i
ddechrau eto. Gyda hen gariad yn dychwelyd, mae bywyd fel tudalen glân mewn dyddiadur newydd. O’r diwedd, mae Elen yn gweld sut i adael ôl ei hun.
Map Yr Underground (4’00”)
Ysg/Cyf: Hywel Griffiths
Mae’r ffilm hon yn botes blasus o gerddoriaeth, barddoniaeth ac animeiddio. Mae’r gerdd, a ysgrifennwyd ac a berfformiwyd gan Ifor ap Glyn, ac sydd wedi ei gosod i gerddoriaeth gan Meilyr Tomos, yn gymysgedd o atgofion sy’n adlewyrchu ar fywyd y bardd, a’i fagwraeth yn Llundain.
