Badans i Bawb o Bobol y Byd
Medi 17th, 2005 gan Rhodri
Badans! Y blog porn cyntaf Cymraeg!
Mae Sbaddaden Jones hyd yn oed wedi mynd i’r draffarth i gyfeithu bywgraffiadau’r genod (wel, ru’n un sy ymhob llun…ddim bo fi ‘di edrych yn fanwl *ahem*…) sy’n addurno’i dudalen. Chwara teg! Yn amlwg mae’n teimlo fod pobol angen bach o hanas cefndirol rhen ‘ogan cyn iddynt fynd ati i gael haliad! Ond y cwestiwn fasa ar wefusa Cymry fasa “Pwy di’w thad a mam hi dwch?”!!
Petae ti’n edrych yn fanylach…ahem..byddi di efallai’n sylwi ar be dwi wedi sgwennu i mewn i “alt” pob llun…
Yn anffodus. Dwi’m yn gallu gwneud hynny am bo fi’n defnyddio Firefox fel porwr, a dwi di llwyddo i ddileu Internet Explorer o’m cyfrifiadur!
Gai awgrymu enw i’r blog? ‘Gwe flog Gweflog’
Am resymau amlwg wnes i ddim agor y ddolen heddiw yn y gwaith, ond neithiwr dyma fi’n trio ei agor adra (ar dial up) ac roedd mor araf mond pen y ddynes welais i ond darllenais i’r disgrifiadau a’r ‘alt’s’ i gyd. Doniol iawn. Defnyddiais y papur tŷ bach i sychu’r dagrau.
Gresyn. Kirsten Imrie fydd badans mis Hydref.