Rwdls Nwdls yn mynd i gysgu

Ionawr 4th, 2009 gan Rhodri

Dwi wedi penderfynu peidio postio unrhywbeth yma o hyn ymlaen. Mae Rwdls Nwdls wedi bod yn gret ar gyfer arllwys fy meddyliau, barn, dolenni a rwtsh eraill dros y 5 mlynedd dwetha a dwi’n gobeithio bod darllenwyr (oedd na rai?!! - oedd, ambell un, a diolch i chi a wnaeth) wedi ffeindio ambell i nyget diddorol yma.

Fydda i’n parhau i flogio draw ar Metastwnsh a siwr o fod yn parhau i Twitro, a darllen negeseuon ar Facebook.

Dwi am gadw’r blog ar agor, i mi ddefnyddio fel rhyw fath o gasgliad nodau tudalen cymaint ag unrhywbeth arall, ond dwi am gau’r sylwadau ymhen chydig. Ella wir y do’i nol ma i flogio eto ryw dro, ond am rwan, mae’n amser i Rwdls Nwdls fynd i gysgu.

Os da chi isio cysylltu a fi gallwch chi wneud hynny drwy anfon ebost at rhodri[dot]apdyfrig[malwen]gmail[dot]com

Hwyl a haul, a diolch am ddarllen a sgwrsio efo fi yma.

Rhods

Un ymateb!

  1. Carl Morris

    Dw i wedi darllen hwn.

    Felly.. cadwa Metastwsh yn byw - hoffwn i darllen llawer o postiau gan ti.

    x

Be da chi'n feddwl? Rhowch eich barn yma...

Noder: Mae eich sylw wedi cael ei anfon i gael ei jecio am sgrwtsh cyn gellir ei gyhoeddi. Sdim angen ail-anfon eich sylw. Wir yr.