NWOBHM (Cymru)

Mai 18th, 2008 gan Rhodri

Argol, ma’r we’n dod a phetha difyrra ar hap weithia dydi.

Wele erthygl ar flog Metal Rorschach am fandiau Roc Trwm Cymraeg yr 80au! (mewn Portiwgeeg - bras gyfieithiad Bablesgodaidd yma)

Arweiniodd sylwadau hwnnw a fi at dudalen ar wefan y band Ceffyl Pren a gafodd ei ysbrydoli gan y gofnod flaenorol, ac yna gweddill tudalennau Ceffyl Pren sydd a llwyth o luniau a phosteri cwl (ac sydd i fod a MP3s ond dydi’r ddolen yna ddim yn gweithio mwya’r piti).

O’n i’n reit ifanc pan oeddan nhw’n chwara ond dwi’n cofio mynd i’r babell roc ar faes y Steddfod i’w gweld nhw rhyw dro a chael fy nghlustia wedi’u chwalu’n dipia!

ceffyl prencp

Be da chi'n feddwl? Rhowch eich barn yma...

Noder: Mae eich sylw wedi cael ei anfon i gael ei jecio am sgrwtsh cyn gellir ei gyhoeddi. Sdim angen ail-anfon eich sylw. Wir yr.