Blogio…
Ebrill 23rd, 2008 gan Rhodri
Sgenna i unrhywbeth i ddweud fan hyn ar hyn o bryd? Dim lot.
Dwi’n Twitro petha mwy personol/synfyfyriol, yn sdicio dolenni dwisio cofio ar Deli.cio.us ac yn mynd i fod yn atgyfodi Pictiwrs cyn bo hir am flogiau/adolygiadau ffilm a theledu. Fydd gen i ddau flog arall (ar y cyd) newydd fydd yn perthyn i fy ngwaith i gyfrannu atyn nhw cyn bo hir (Sesh a Mercator), fydd ill dau yn rhoi lle i’r math o gofnodion sydd gen i fan hyn. Felly dwi’n gweld Rwdls Nwdls yn mynd yn llai bywiog.
Dwi ddim am roi’r blog yn y to, ond ma petha am ddistewi siwr o fod.
Trefnwyd dan Y Blog Ei Hun
Dim probs, yn enwedig i rhai ohonom sy’n darllen blogiau trwy RSS.
Beth am addasu’r post yma a rhoi dolen at gyfrif del.icio.us (os ti’n fodlon i eraill ei weld), efallai ymuna’n nhw â dy rwydwaith.
Edrych ymlaen i weld y blogiau newydd, mae digon o ddeunydd i flogio amdano ar yr un Mercator - pryd mae Sesh am fod ar agor i bawb, ti’n gwbod?
Shwdi Rhys, dolenni wedi’u hychwanegu. O’n i’n bod yn ddiog neithiwr.
O ran y blogiau newydd, dwi’n eitha cyffrous am Pictiwrs ar ei newydd wedd, ond bydd angen rhagor o gyfranwyr newydd. Dwi’n fwy cyffrous efallai am un Mercator gan y bydd yn dod â phobol newydd i sgwennu ar-lein am bynciau difyr ofnadwy (i ti a fi!). Bydd y blog hwnnw’n amlieithog lle gallwn ni ei wneud o hefyd.
O ran Sesh, ma na gymhlethdodau, ond buan bydd o fyny ac yn gweithio.