FfrwdFfrind

Ebrill 2nd, 2008 gan Rhodri

Ma gen i rwan ffrwd ar FriendFeed. Ma’n un ffrwd RSS o’n Fflicr, Twitter, YouTube, Blog, Delici.o.us a StumbleUpon ar gyfer eich porwr ffrydiau RSS…os da chi that way inclined ‘lly.

7 Ymateb!

  1. Rhys

    Licio’r syniad yn fawr ond ddim eisiau ei wneud cweit mor hysbys faint o amser dwi’n dreulio ar-lein!

  2. Rhodri

    Wel, ffordd dwi’n gweld hi, mae’r feeds yna i gyd ar gael i bwy bynnag weld os mae’n nhw isio felly pam lai eu cronni nhw mewn un lle.

    Dwi’n meddwl fod hi’n ddigon hysbys eisoes faint o amser dwi’n dreulio ar-lein! A tithau tase hi’n dod at hynny! Sdim ond rhaid edrych ar nifer negeseuon maes-e ac mae’r ateb yno! Neith sbredio dy hun allan ddim cuddio’r gwir!

  3. Rhys

    Digon gwir, pwy dwi’n drio’i dwyllo!

  4. Rhys

    Doeddwn methu helpu fy hun

    Wedi siomi mai dim ond ffrwd o rai gwefannau penodol chi’n cael cynnwys. byddwn wedi licio ychwanegu RSS
    Tagzania
    Qype
    a
    jobs-cymraeg.com

    Bydd rhaid sbio am un gwell

  5. Rhys

    Roedd fod dolen at:http://friendfeed.com/rhys

  6. Rhodri

    Be am drio ychwanegu nhw iddo fo fel “blog” i weld be ddigwyddith? Dwi newydd roi sylwadau’r blog yma fel feed iddo fo.

  7. Rhys

    Mae hyny’n gweithio i Tagzania a Qype. Diolch

Be da chi'n feddwl? Rhowch eich barn yma...

Noder: Mae eich sylw wedi cael ei anfon i gael ei jecio am sgrwtsh cyn gellir ei gyhoeddi. Sdim angen ail-anfon eich sylw. Wir yr.